ftr - the future of travel First - Transforming travel
body
News Centre
Dyfodol teithio; ftrmetro yn cael ei lansion swyddogol.16/09/2009 - Dyfodol teithio; ftrmetro yn cael ei lansion swyddogol.
Ymunodd Prif Weithredwr FIRSTGROUP, Syr Moir Lockhead OBE, ag unigolion blaenllaw o Ddinas a Sir Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) mewn digwyddiad arbennig y tu allan i Ganolfan Ddinesig Abertawe heddiw (dydd Mercher 16 Medi) i ddathlu teithio yn y gorffennol ac i edrych i'r dyfodol, gan enwi cerbyd fel rhan o lansiad swyddogol prosiect ftrmetro.

Abertawe yw'r ddinas gyntaf yng Nghymru i ddefnyddio'r bysys ftrmetro arloesol.

Mae'r cerbyd o'r radd flaenaf, ac wedi cael ei enwi'n 'Dinas Abertawe' er mwyn dathlu 40 mlynedd ers i Abertawe dderbyn statws fel dinas ym 1969.

Mae llawer wedi newid yn Abertawe dros y deugain mlynedd diwethaf, ac ystyrir mai dyfodol teithio yw'r fenter ftrmetro newydd, gydag uwch-dechnoleg ei gerbydau, sy'n cynnwys aerdymheru, cynllun â digon o le a sgriniau gwybodaeth, a'i bod wedi'i chynllunio i fynd ag Abertawe i mewn i'r unfed ganrif ar hugain.

Mae'r cerbydau porffor arbennig yn cynnig modd newydd o gludiant cyhoeddus sy'n cyfuno ansawdd uchel y tram a hyblygrwydd y bws. Maen nhw wedi bod yn troi pennau yn Abertawe oherwydd eu golwg tra modern ers i waith ddechrau i'w gweithredu ar lwybr Gwasanaeth 4 rhwng Ysbyty Treforys ac Ysbyty Singleton (trwy Ganol Dinas Abertawe) ym mis Mehefin eleni.

Mae seilwaith helaeth ar y ffyrdd ynghyd â mesurau i flaenoriaethu bysys yn gefn i'r cerbydau ftrmetro hyn, ac yn golygu eu bod yn gallu mynd yn rhwydd drwy'r ddinas, gan gwtogi ar amserau teithio blaenorol dros y ddinas gan hyd at 10 munud.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn rhoi cyfnewidfa ddi-dor â Gorsaf Reilffordd Abertawe o ochr orllewinol Canol y Ddinas, sy'n golygu bod ymwelwyr yn gallu newid yn gymharol rhwydd rhwng y trên a'r bws. Mae tocynnau integredig PlusBus yn gwneud y broses hyd yn oed yn haws i gwsmeriaid ar y rheilffyrdd. Mae'r cyswllt newydd â'r orsaf reilffordd yn hwyluso teithio i Stadiwm Liberty ac oddi yno am gemau pêl-droed a digwyddiadau arbennig i ymwelwyr y tu allan i'r ardal.

Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Syr Moir Lockhead: "Mae Abertawe'r unfed ganrif ar hugain yn wynebu heriau mawr, fel nifer o ddinasoedd eraill yn y DU. Mae'n rhaid iddi ailddyfeisio ei hun o hyd, gan ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i'r afael â bygythiadau tagfeydd a newid yn yr hinsawdd. Trwy ddatblygu rhwydwaith cludiant cadarn, sy'n annog pobl i ddefnyddio bysys yn lle ceir preifat, maer ddinas yn mynd i'r afael â'r problemau hyn go iawn.

"Mewn partneriaeth â Dinas a Sir Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae FirstGroup wedi cymryd camau i annog y newid moddol hwn. Mae'r ftrmetro yn cynnig y cyfle i gwsmeriaid deithio o un ochr y ddinas i'r llall mewn awyrgylch cyfforddus, gydag aerdymheru a seddi lledr, gan wibio heibio i draffig arall o ganlyniad i'r mesurau lluosog sydd yn eu lle i roi blaenoriaeth i fysys.

"Mae'n ddyddiau cynnar o hyd, ond mae ffigurau defnyddwyr yn unol â'r disgwyl, ac rydym yn disgwyl tyfiant pellach dros y misoedd nesaf wrth i fwy a mwy o bobl penderfynu teithio ar ftrmetro, yn hytrach na'r car."

Mae ftrmetro Abertawe'n becyn £14miliwn sy'n cael ei redeg gan First a Dinas a Sir Abertawe mewn partneriaeth. Mae'r seilwaith, sy'n costio amcangyfrif o £10miliwn, wedi'i gyllido gan Grant Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae First wedi gwario tua £4miliwn yn prynu 10 cerbyd ftrmetro yn ogystal ag uwchraddio cyfleusterau parcio a pheirianneg ym mhrif swyddfa First Cymru yn Abertawe.

Wrth sôn am lansio'r fenter ftrmetro, dywedodd y Cynghorydd Alan Lloyd, Arglwydd Faer Abertawe: "Rydw i wrth fy modd i fod yma i lansio'r fenter ftrmetro yn swyddogol. Yr hyn sydd gyda ni nawr yw cludiant ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain yn Abertawe. Rydym wedi cofleidio dyfodol cludiant cyhoeddus a bydd effaith gadarnhaol a phellgyrhaeddol yn Abertawe am flynyddoedd yn sgil hynny."

Ychwanegodd Carwyn Jones, Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cynulliad Cymru: "Mae cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i fwriadu i gynorthwyo wrth gychwyn prosiectau arloesol fel hyn. Mae'n foddhaol iawn gweld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth. Mae mentrau fel hyn yn hanfodol o safbwynt ein hagenda cynaliadwyedd a lleihau allyriadau carbon. Gobeithio bydd pobl leol ac ymwelwyr i'r ardal ill dau yn cofleidio'r ftrmetro, ac yn gadael eu ceir gartref a theithio ar gludiant cyhoeddus yn lle hynny."

Mae tîm o ddeunaw 'peilot' wedi'u hyfforddi'n drylwyr i gymhwyso er mwyn gyrru'r ftrmetro. Roedd rhaid iddyn nhw ddysgu sut i ddelio â hyd ychwanegol y cerbyd, geometreg llywio cerbydau a llywio ar y ffyrdd cyn cael caniatâd i fynd ar y ffordd â theithwyr ar y cerbyd.

Mae un deg saith swydd wedi'u creu yn y tîm gwasanaethau cwsmeriaid er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid a chasglu prisiau tocynnau. Mae'r tîm hwn wedi dysgu geiriau sylfaenol yn y Gymraeg, ynghyd â hanes a diwylliant sylfaenol Cymru, gan ddatblygu gwybodaeth drylwyr am gyfleusterau ac amwynderau Abertawe er mwyn sicrhau eu bod yn barod i fynd i'r afael â'r rôl bwysig o ymdrin â chwsmeriaid.

<< Back to news
body