

Cliciwch yma am fap pdf o’r llwybr ftrmetro.
Yn ogystal â defnyddio’r cerbydau coeth a chyfforddus diweddaraf mae’r ftrmetro yn defnyddio mesurau blaenoriaethu eang ar y ffordd. Bydd y mesurau hyn yn sicrhau gwasanaeth cyflym a chyson er mwyn mynd â chi i ben eich taith heb oedi.
Nodweddion arbed amser ar y ffordd
Trac ftrmetro Canol y Ddinas - trac 2 ffordd rhwng Stryd y Berllan a’r Ganolfan Ddinesig sy’n darparu ffordd wedi’i neilltuo sy’n caniatáu i ftrmetro a thrafnidiaeth gyhoeddus arall i basio drwy Ganol y Ddinas heb wynebu traffig.
Mae’r Wibffordd i fysiau yn ffordd 2 lwybr wedi’i neilltuo ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a reolir gan gatiau i fysiau sy’n caniatáu i ftrmetro osgoi tagfeydd rhwng yr Hafod a Chanol y Ddinas
Cynllun ffyrdd newydd a goleuadau traffig sy’n rhoi blaenoriaeth ar Stryd Martin a chylchfannau Lefel y Cwm, a ffordd osgoi dwy ffordd i fysiau ar gylchfan Heol Normandy sy’n osgoi ciwiau ac yn sicrhau bod ftrmetro yn dal i symud
Mesurau eraill ar y ffordd gan gynnwys blaenoriaeth i ftrmetro ar oleuadau traffig a mynediad drwy’r Brifysgol ac Ysbyty Singleton lle cyfyngir traffig arall.